Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-20-12  

 

CLA178

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl:  Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2012

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008, gan drosi Cyfarwyddeb 2012/5/EU (y Gyfarwyddeb), o ran brechu yn erbyn y tafod glas. Byddant yn galluogi'r rhai sy'n cadw anifeiliaid i ddefnyddio brechlynnau anweithredol i frechu eu hanifeiliaid yn erbyn y tafod glas.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn ar hyn o bryd:

 

Mae Erthygl 1 o'r Gyfarwyddeb yn diwygio Cyfarwyddeb 2000/75/EC (Cyfarwyddeb 2000).  Mae Erthygl 1(2) o'r Gyfarwyddeb, sy'n diwygio Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2000, yn cynnwys y testun a ganlyn –

 

“2. Whenever live attenuated vaccines are used, Member States shall ensure that the competent authority demarcates:

 

(a) a protection zone, consisting of at least the vaccination area;

 

(b) a surveillance zone, consisting of a part of the Union territory with a depth of at least 50 kilometres extending beyond the limits of the protection zone.”

 

Mae Erthygl 1(4) o'r Gyfarwyddeb yn disodli Erthygl 8(2)(b) o Gyfarwyddeb 2000, gan ddefnyddio'r testun a ganlyn –

 

"(b) The surveillance zone shall consist of a part of the Union territory with a depth of at least 50 kilometres extending beyond the limits of the protection zone and in which no vaccination against bluetongue with live attenuated vaccines has been carried out during the previous 12 months.";

 

Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008 mewn perthynas â pharthau gwyliadwraeth, ond nid oes unrhyw gyfeiriad at y terfyn gofynnol, sef 50 cilomedr. 

 

Felly, gwahoddir y Cynulliad Cenedlaethol i roi sylw arbennig i'r Rheoliadau hyn, gan eu bod yn gweithredu deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd mewn modd amhriodol.  [Rheol Sefydlog 21.3(iv)]

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

1 Hydref 2012

 

Ymatebodd y Llywodraeth fel a ganlyn:

 

Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2012

 

Ymateb i'r Pwynt Adrodd Craffu ar Ragoriaethau

 

Gall Gweinidogion Cymru, sef yr “awdurdod cymwys” o fewn ystyr Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2012/5/EU (“y Gyfarwyddeb”), osod y pellteroedd lleiaf a bennir yn Erthygl 1(4) o'r Gyfarwyddeb a byddent yn gwneud hynny pe bai brigiad o'r tafod glas. Nid oes angen cyfeirio at y pellteroedd lleiaf hynny yn Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2012 (“y Rheoliadau”).

 

Mae Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008, fel y'u diwygir gan y Rheoliadau, yn rhoi pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru i ddatgan y parthau angenrheidiol, tra bo’r Gyfarwyddeb yn glir ac yn ddiamwys o ran y pellteroedd gofynnol. Mae Gweinidogion Cymru, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i'r gofynion darnodi hynny. Felly, nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch gallu Gweinidogion Cymru i ymdrin ag unrhyw frigiad o'r tafod glas, yn gyfreithlon ac yn unol â gofynion y Gyfarwyddeb. Mae'r Rheoliadau yn rhoi effaith briodol i'r Gyfarwyddeb ac nid oes angen i'r Rheoliadau gyfeirio at y pellteroedd lleiaf a bennir yn y Gyfarwyddeb.